Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd/ Zoom
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 15
Medi 2020
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Ar ôl ymgynghori â'r Pwyllgor Busnes, mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddulliau electronig.
Mae'r Llywydd hefyd yn hysbysu, yn unol â Rheol Sefydlog 34.15, fod y cyhoedd wedi eu gwahardd rhag bod yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn hwn, fel sy'n ofynnol er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd. Bydd y cyfarfod yn parhau i gael ei ddarlledu'n fyw a bydd cofnod o'r trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(60 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ateb cwestiynau am 15 munud olaf y sesiwn hon ar faterion yn ymwneud â'i chyfrifoldebau.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(15 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Ailagor ysgolion
(45 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cynllun Diogelu'r Gaeaf
(45 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Tai, Tlodi a Chymunedau
(45 munud)
6 Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig
(45 munud)
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 16 Medi 2020.